Isaiah 4

1Bryd hynny,

bydd saith o ferched yn gafael mewn un dyn,
ac yn dweud, “Gad i ni dy briodi di –
Gwnawn fwyta ein bwyd ein hunain,
a gwisgo'n dillad ein hunain.
Ond cymer ein cywilydd ni i ffwrdd!”
4:1 Cymer ein cywilydd i ffwrdd Os oedd gwraig heb ŵr a phlant, roedd yn achos cywilydd mawr.

Bydd yr Arglwydd yn bendithio ei bobl

2Bryd hynny,

bydd blaguryn yr Arglwydd
yn rhoi harddwch ac ysblander,
a bydd ffrwyth y tir
yn cynnig urddas a mawredd,
i'r ychydig rai fydd ar ôl yn Israel.
3Bydd y rhai sydd ar ôl yn Seion,
ac wedi eu gadael yn Jerwsalem
yn cael eu galw'n sanctaidd –
pawb sydd wedi eu cofnodi i fyw yn Jerwsalem.
4Pan fydd yr Arglwydd wedi glanhau
budreddi merched Seion,
bydd yn cael gwared ag euogrwydd Jerwsalem –
trwy farnu a charthu.
5Bydd yr Arglwydd yn dod â chwmwl yn y dydd
a thân yn llosgi yn y nos, b
a'i osod uwchben y cysegr a'r man cyfarfod ar Fynydd Seion.
Yn wir, bydd ei ysblander yn hongian fel canopi dros bopeth. c
6Bydd fel caban i gysgodi rhag y gwres yn ystod y dydd,
ac yn lloches i gysgodi rhag y storm o law.
Copyright information for CYM